Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
17 Chwefror 2014
CLA358 - Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae adran 9 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gwahardd, yn ddarostyngedig i eithriadau, hollti hawl comin oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn caniatáu hollti dros dro hawl comin i bori anifeiliaid oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef drwy alluogi lesio neu drwyddedu'r hawl i drydydd parti am ddim mwy na phum mlynedd.